Neidio i'r cynnwys

Perl

Oddi ar Wicipedia
Perl
Mathcynnyrch anifeiliaid, glain organig, spherical body Edit this on Wikidata
Deunyddnacr Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/05_8m edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF5130 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwrthrych sfferigol caled yw perl a gaiff ei greu o fewn mantell molwsg cragennog. Caiff perl ei gyfansoddi o galsiwm carbonad ar ffurf crisialog mân, yr un peth a thu mewn y gragen (sef mamaeth y perl).

Gemwaith

[golygu | golygu cod]
Merch gyda Pherl (Iseldireg: Meisje met de parel) gan Johannes Vermeer, tua 1665

Ers cyn hanes bu pobl yn plymio i gasglu perlau.

Yn ogystal â'r perlau gwyn symudliw traddodiadol, mae rhai mathau o folwsg mewn rhai rhannau o'r byd yn cynhyrchu perlau lliw, gan gynnwys rhai melyn, aur, arian a du.

Yn yr 20fed ganrif datblygodd y diwydiant perlau gwneud. Drwy osod rhyw ronyn bach llidus yng nghragen wystrysen neu gragen las fe'i orfodir i greu sylwedd o'r enw nacr, sy'n datblygu'n berl. Mae'r 'perlau gwneud' hyn yr un ffunud â pherlau naturiol ar lefel fiolegol, ond nid ydynt yn cael eu hystyried yr un mor werthfawr.[1]

Yn llenyddol

[golygu | golygu cod]

Enw arall am berl yn Gymraeg yw mererid (o'r Lladin margarīta) a dyma'r gair a ddefnyddir ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol.[2] Yn y gerdd Preiddeu Annwfn o Lyfr Taliesin dywed fod gan Bair Annwfn "gwrym am y oror a mererit" ([deunudd] tywyll a merereid [=perlau] am ei ymyl).[3]

Neu Llywarch ap Llywelyn "Mal heu rac moch meryerid"[2] (fel hau mererid [=perlau] rhag moch) - cyfeiriad at adnod Mathew 7:6 lle mae taflu perlau o flaen moch yn drosiad am wastraffu rhywbeth gwerthfawr drwy ei roi i bobl na all ei werthfawrogi.

Yn drosiadol mae 'perl' yn beth dethol a gwerthfawr, ac mae felly'n enw poblogaidd ar gasgliadau o farddoniaeth, o ddywediadau neu o ganeuon - er enghraifft Perlau Cocos neu Y Perlau Moliant Newydd.

Traddodiadau meddygol

[golygu | golygu cod]

Mae perlau yn cael eu defnyddio ym Meddygaeth Draddodiadol Tseina er mwyn lleddfu'r ysbryd, gwella'r golwg a meddalu'r croen.[4] Roedd perlau'n chwarae rôl feddygol yng ngwledydd Ewrop hefyd yn ystod Yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar; byddent yn cael eu malu a'u llyncu neu eu toddi mewn asid megis sudd lemwn.[5][6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Cultured pearl | Science | Research Starters | EBSCO Research". EBSCO (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-19.
  2. 1 2 "Geiriadur Prifysgol Cymru". welsh-dictionary.ac.uk. Cyrchwyd 2026-07-19.
  3. ↑ Haycock, Marged (2015). Legendary Poems from the Book of Taliesin. Aberystwyth: CMCS. t. 435. ISBN 978-0-9557182-8-1.
  4. ↑ Song, Yinglian; Chen, Wanyue; Fu, Ke; Wang, Zhang (2022). "The Application of Pearls in Traditional Medicine of China and Their Chemical Constituents, Pharmacology, Toxicology, and Clinical Research". Frontiers in Pharmacology 13: 893229. doi:10.3389/fphar.2022.893229. ISSN 1663-9812. PMC 9445187. PMID 36081944. https://pmc.ncbi.nlm.nih.gov/articles/PMC9445187/.
  5. ↑ Stone, Mary. "More Than Adornment: The Magical World of Renaissance Gemstones". www.hws.edu (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-07-19.
  6. ↑ Claxton, Juliet. "Precious Secrets – Pearls & Coral in Early Modern Recipes". recipes.hypotheses.org. Cyrchwyd 2026-07-19.