Neidio i'r cynnwys

De Osetia

Oddi ar Wicipedia
De Ossetia
Mathgwladwriaeth a gydnabyddir gan rai gwledydd, tiriogaeth ddadleuol, de facto regime, Gwladwriaeth byped, tiriogaeth dan feddiant Edit this on Wikidata
PrifddinasTskhinvali Edit this on Wikidata
Poblogaeth56,520 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
AnthemNational Anthem of South Ossetia Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethConstantine Dzhussoev Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg, Oseteg, Georgeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGeorgia, De Osetia Edit this on Wikidata
Arwynebedd3,900 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaRwsia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.225°N 43.97°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolgovernment of South Ossetia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholParliament of South Ossetia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
De facto President of South Ossetia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMarat Kambolov Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog De Osetia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethConstantine Dzhussoev Edit this on Wikidata
Map
ArianRŵbl Rwsiaidd, Commemorative coins of De facto South Osetia Edit this on Wikidata
Lleoliad De Osetia ar fap o Georgia

Tiriogaeth ddadleuol yn y Cawcasws yw De Osetia (Oseteg: Хуссар Ирыстон, Khussar Iryston; Georgeg: სამხრეთ ოსეთი, Samkhret Oseti; Rwseg: Южная Осетия, Yuzhnaya Osetiya). Yn ôl cyfraith ryngwladol, mae'n rhan de jure o weriniaeth Georgia, ond mae'n weriniaeth annibynnol de facto gyda chysylltiadau agos â Gogledd Osetia, sy'n rhan o Ffederasiwn Rwsia. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Osetia, un o sawl cenedl hanesyddol bychan yn y Cawcasws. Tskhinvali yw'r brifddinas. Cydnabyddir De Osetia gan ychydig o wledydd eraill yn unig.

Mae tua 70-80% o'r boblogaeth yn Osetiaid, ac yn Gristnogion sy'n siarad Oseteg, iaith sy'n debyg i Farsi.Ond ceir pryder am ddyfodol yr iaith Oseteg oherwydd diffyg addysg a hefyd gwahaniaethau tafodiaethol o fewn De a Gogledd Osetia.[1] Mae gweddill y boblogaeth, yn bennaf yn y de, yn Georgiaid.

Cyhoeddwyd gweriniaeth annibynnol De Osetia gan wrthyfelwyr yn erbyn awdurdod Georgia yn 2001, ar ôl cyfnod o anghydfod a gwrthryfel. Erbyn heddiw mae tua 90% o boblogaeth y diriogaeth yn dal pasbortau Rwsiaidd, a hynny ar anogaeth Rwsia ei hun. Sefydlwyd llu heddwch yn y diriogaeth, yn cynnwys milwyr Rwsiaidd yn bennaf ac unedau o fyddin Georgia.

Yn ystod y nos ar 7 Awst 2008, ymosododd lluoedd arfog Georgia ar y gwrthryfelwyr a bomiwyd rhannau o ddinas Tskhinvali gan gychwyn Rhyfel De Osetia. Ymateb Rwsia, a oedd wedi bod yn crynhoi adnoddau milwrol ar y ffin am tua dau fis, oedd anfon ei milwyr i mewn i Dde Osetia.

Mae Oseteg a Rwseg yn ieithoedd swyddogol o fewn y tiriogaeth.

Cofeb yn Tskhinvali i'r rhai a syrthiodd yn y frwydr dros annibyniaeth

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "One Nation, Two Polities, Two Endangered Ossetian Languages?". Radio Free Europe/Radio Liberty. 28 Mai 2015.